STUDIO MELYN
Partneriaeth o artistiaid yw Studio Melyn, a ffurfiwyd gan Linda Norris a Rachel Phillips, ac mae wedi ei leoli yn Sir Benfro, Gorllewin Cymru.
Rydym ni’n cyfuno sgiliau traddodiadol o greu gwydr, â sensitifrwydd tuag at eu cyd-destun a’r gymuned, ac ymrwymiad i greu gwaith celf nodedig a chyfoes o safon eithriadol o uchel, gan ymateb i leoliadau hanesyddol a modern. Rydym ni’n ymhyfrydu i ymchwilio a datrys problemau, ac yn anelu at gymryd agwedd ffres tuag at ymyrraeth dros dro neu barhaol, ar raddfa ddyrys a phensaernïol.
Rydym ni’n gwerthfawrogi gwaith medrus a chrefftus ac mae’r berthynas rhwng y traddodiadol a’r cyfoes yn ganolbwynt i’n gwaith ni, wrth weithio gyda gwydr.
LINDA NORRIS
Peintiwr yw Linda Norris a ddechreuodd weithio â gwydr deg mlynedd yn ôl. Mae diddordeb ganddi archwilio gwahanol agweddau o ddiwylliant a hanes ein tirwedd, a dod o hyd i ffyrdd amgen o greu celf gyfoes, gan ddefnyddio dulliau traddodiadol.
Mae Linda wedi ennill nifer o wobrau am ei gwaith gan gynnwys “The Warm Glass Prize” a hefyd “Adrian Henri Poetry in Art Prize”. Yn 2015 cafodd ei gwaith ei ddewis am “The British Glass Biennale”.
Ochr yn ochr â’i gwaith peintio yn y stiwdio, mae Linda hefyd wedi arloesi i ddefnyddio gwydr ar gyfer prosiectau creadigol mewn lleoliadau cymunedol.
www.linda-norris.com
RACHEL PHILLIPS
Arlunydd gwydr lliw yw Rachel Phillips a’i diddordeb pennaf yw defnyddio gwydr fel celfyddyd gymhwysol mewn pensaernïaeth. Mae hi wedi dylunio a chreu nifer o gelfyddyd bensaernïol a gwydrau lliw wedi eu comisiynu ar gyfer Eglwysi ac adeiladau cyhoeddus a phreifat ar draws Prydain. Yn ddiweddar fe gwblheuodd y “Glass Beacon” sef comisiwn cyfoes i greu deuddeg panel ar gyfer Campws Heol Alexandra, sydd newydd ei hadnewyddu yn Abertawe.
Mae hi’n darlithio yn yr Ysgol Wydr yn Abertawe, sy’n enwog yn rhyngwladol, ac yn rhan o Brifysgol y Drindod Dewi Sant, lle mae hi’n arbenigo yn nhechnegau traddodiadol â diddordeb arbenigol ym mheintio gwydr canoloesol.
www.rachelphillipsglass.com